Digwyddiadau rhithiol Briff Arloesi yn cael eu cynnal yn ystod mis Hydref

Dydd Iau 13 Hydref 2022

Bydd cyfres o ddigwyddiadau rhithiol yn cael eu cynnal yn ystod mis Hydref ynghylch y newyddion diweddaraf mewn Briff Arloesi.

Digwyddiad Briffio ar gyfer yr Her Cynhyrchu a Chyflenwi Bwyd yn Gynaliadwy

Dydd Mawrth 18 Hydref 2022

1pm – 3pm

Mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Fynwy, mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i adnabod a chefnogi prosiectau er mwyn datblygu datrysiadau arloesol a all wella’r cynhyrchiad a chyflenwad cynaliadwy o fwyd. Mae’r Her yn chwilio am ymgeiswyr i fanteisio ar botensial tir, technoleg a phobl i gynyddu’r cynhyrchiad a chyflenwad cynaliadwy o fwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

I ddysgu rhagor a chofrestru

Cymhorthfa Cefnogi Arloesi

Dydd Mercher 26 Hydref 2022

10am – 4.45pm

Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag Innovate UK, Innovate UK KTN ac Innovate UK Edge yn cynnal Digwyddiad Cymhorthfa Cyllid Arloesi er mwyn cynorthwyo cwmnïau penodol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i baratoi eu hunain yn well ar gyfer rhedeg Prosiectau Ymchwil a Datblygu mwy effeithiol.

Mae dau le ar ôl ar hyn o bryd i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.

I ddysgu rhagor a chofrestru.

Curiad Arloesi

Dydd Iau 27 Hydref 2022

10am – 11am

Mae’r weminar hon yn cynnig crynodeb o newyddion Cymorth Arloesi gan:

  • Innovate UK (IUK)
  • Cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch (DASA)
  • Cystadleuaeth Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) Cam 2: Y Cyfle Olaf (Innovate UK KTN)
  • Cymru Ystwyth (WEFO)

Bydd y cyflwyniadau yn cwmpasu newyddion y chwarter diwethaf gyda’r newyddion disgwyliedig yn y chwarter nesaf.

I ddysgu rhagor a chofrestru.

<< Yn ôl at Newyddion