Offeryn newydd yn helpu busnesau i ddiogelu staff a chwsmeriaid

Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2020

Risk Assessment

Mae offeryn asesu risg Covid-19 (External link – Opens in a new tab or window) wedi’i gynhyrchu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i helpu busnesau i reoli risg a diogelu pobl.

Mae’r offeryn ar-lein yn tynnu sylw at faterion sydd angen eu cynnwys mewn asesiad risg o’r gweithle – fel nodi peryglon penodol, ystyried pwy allai gael eu niweidio a sut, argymell pa gamau y gellir eu cymryd er mwyn helpu i gyfyngu ar risg, helpu cyflogwyr i nodi pwy sydd angen cyflawni camau penodol, a chadarnhau pryd mae angen gwneud hyn.

Mae’n darparu’r fframwaith er mwyn i gyflogwyr allu canolbwyntio ar y canlynol:

  • Nodi pa weithgaredd neu sefyllfaoedd gwaith a allai ledaenu’r coronafeirws.
  • Cadarnhau pwy allai fod yn wynebu risg.
  • Cyfrifo pa mor debygol yw hi y gallai rhywun ddod i gysylltiad â’r feirws.
  • Cymryd camau i gael gwared ar y gweithgaredd neu’r sefyllfa, neu os nad yw hyn yn bosibl, rheoli’r risg.

Mae hefyd yn cynnwys mesurau ymarferol y mae busnesau yn gallu eu cymryd, megis:

  • Cynnal sifftiau ar adegau gwahanol i gyfyngu ar nifer y bobl mewn ystafelloedd fel y gellir cynnal rheolau cadw pellter cymdeithasol.
  • Gosod systemau unffordd o fewn coridorau i reoli llif y bobl sy’n symud o amgylch y gweithle.
  • Cynyddu’r defnydd o gyfleusterau cyfarfod ar-lein, hyd yn oed ar gyfer pobl sy’n gweithio o fewn yr un adeilad, er mwyn lleihau nifer y bobl sy’n symud o amgylch.
  • Darparu loceri er mwyn i bobl gadw eiddo personol ynddynt fel nad ydyn nhw’n cael eu gadael allan.
  • Darparu cyfleusterau golchi dwylo ychwanegol.
  • Cadw arwynebau’n glir er mwyn eu gwneud yn haws i’w glanhau a lleihau’r tebygolrwydd o halogi gwrthrychau.
  • Cynnwys gweithwyr wrth gwblhau asesiadau risg fel y gallant helpu i nodi problemau a datrysiadau posibl.
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i weithwyr ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd fel eu bod yn teimlo eu bod yn cymryd rhan ac yn cael sicrwydd

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Bydd yr offeryn asesu risg newydd hwn yn helpu cyflogwyr i sicrhau eu bod wedi cwmpasu’r hyn sydd ei angen arnynt er mwyn cadw eu staff a’u cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn.

“Yn ogystal â darparu arweiniad ar sut i gyfyngu ar y risg o gael, neu ledaenu’r coronafeirws mewn ardaloedd lle bydd pobl yn ymgynnull megis ffreuturau, coridorau a chyfleusterau tŷ bach, mae’n cynnwys yr hyn sydd angen ei gwmpasu wrth ystyried rheolau glanhau a hylendid, sut i sicrhau bod rheolau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn, a sut i ofalu am iechyd meddwl a llesiant gweithwyr a allai gael eu heffeithio o ganlyniad i deimlo’n ynysig neu bryderu am y coronafeirws.

“Unwaith bydd cyflogwyr wedi cwblhau’r asesiad risg, bydd angen ei fonitro er mwyn sicrhau bod yr hyn sydd wedi’i roi ar waith yn gweithio yn ôl y disgwyl.”

Am ragor o fanylion, ewch i dudalen we yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar weithio’n ddiogel yn ystod yr argyfwng Covid-19. Mae gwybodaeth a chyngor pwysig pellach ynglŷn â Covid-19 ar gael i gyflogwyr a gweithwyr ar wefan Cymru Iach ar Waith.

<< Yn ôl at Newyddion