Gwahodd busnesau i ddod yn un o bartneriaid Cerdyn Vectis

Dydd Mawrth 4 Awst 2020

Vectis Card

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darparu cynnig i ddeiliaid Cerdyn Vectis ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?

Beth mae ei angen gennych?

Cynnig neu ddisgownt yr ydych yn gyfforddus gydag ef!

Mae cynigion poblogaidd yn cynnwys % benodol fel gostyngiad, gwario x a chael gostyngiad o x, hyd yn oed paned o goffi am ddim pan fyddwch yn prynu brechdan. Hefyd, os hoffech newid y cynnig dim ond rhoi 2 wythnos o rybudd y mae angen i chi ei wneud.

Beth sydd ynddo i chi?

Cael eich hyrwyddo 24/7, 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn!

Mae partneriaid y cerdyn yn cael eu hyrwyddo drwy gydol y flwyddyn trwy wefan ac ap symudol Cerdyn Vectis i ddefnyddwyr detholus yn unig.

Beth yw’r gost?

Nid oes cost i chi fel busnes a darperir y cardiau ar gyfer deiliad y cerdyn fel budd neu wobr felly nid oes cost iddynt hwy ychwaith.

Beth sydd nesaf?

Yn syml llenwch y ffurflen gais a bydd tîm Cerdyn Vectis yn cysylltu â chi i gychwyn eich cynnig o fewn diwrnodau!

Byddwch yn cael eich ychwanegu at ap a gwefan Cerdyn Vectis fel bod yr holl aelodau’n gallu dod o hyd yn rhwydd i’ch cwmni, y disgownt yr ydych yn ei gynnig a’ch lleoliad.

I gael rhagor o wybodaeth ewch at www.vectiscard.co.uk neu cysylltwch â thîm Cerdyn Vectis trwy’r e-bost: talk2us@vectiscard.co.uk

<< Yn ôl at Newyddion