Mae tîm Datblygu Economaidd a Menter Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi menter newydd sbon i gefnogi busnesau newydd lleol, pobl greadigol a grwpiau cymunedol yng nghanol Maesteg.
Mae’r fenter, o’r enw “For a Limited Time Only…?”, yn cynnig mynediad byrdymor i Uned 14 ym Marchnad Maesteg, gan ddarparu gofod risg isel, amlwg i unigolion a sefydliadau brofi syniadau, arddangos cynnyrch, neu gysylltu â chwsmeriaid – i gyd am gyfnod cyfyngedig a heb unrhyw gost i’r meddiannydd.
Mae’r prosiect wedi’i anelu at fasnachwyr lleol, gwneuthurwyr, busnesau bach, mentrau cymdeithasol, ac artistiaid a phobl greadigol o bob rhan o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd eisiau cyfle i gamu i mewn i ofod cyhoeddus.
Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai, “Mae Marchnad Maesteg wedi bod yn ganolfan hirsefydlog o gymunedau creadigol, ac mae’r fenter hon yn rhoi bywyd newydd i’r traddodiad hwnnw. Trwy gynnig y gofod dros dro hwn, lle gall creadigrwydd ac entrepreneuriaeth ffynnu heb rwystrau ariannol, rydym nid yn unig yn cefnogi ein doniau lleol ond hefyd yn cyfoethogi gwead diwylliannol ac economaidd ein tref.”
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y syniadau arloesol fydd yn dod yn fyw gan fusnesau Maesteg yn yr amgylchedd cyffrous hwn.”
Mae datganiadau o ddiddordeb bellach ar agor, ac mae’r Cyngor yn gwahodd unigolion a grwpiau i ddod ymlaen a dweud wrthyn nhw sut yr hoffen nhw ddefnyddio’r gofod trwy lenwi’r ffurflen datganiad o ddiddordeb fer hon.
Bydd y gofod dros dro yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd ddydd Llun 12 Mai 2025 a bydd yn rhedeg am gyfnod o chwe mis. P’un a yw am un diwrnod neu wythnos, bydd pob gofod dros dro yn dod â rhywbeth newydd i’r farchnad – gan ychwanegu bywiogrwydd i ganol y dref a helpu i gefnogi’r economi leol.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Dilynwch ni