Busnes Cymru yn lansio gwasanaeth Effeithlonrwydd Adnoddau

Dydd Gwener 7 Hydref 2022

Mae Busnes Cymru wedi lansio gwasanaeth i fynd i’r afael â chostau ynni ar gyfer busnesau yn ystod yr argyfwng costau byw.

Mae Effeithlonrwydd Adnoddau yn cynnwys lleihau costau ynni, dŵr a gwaredu gwastraff ac ymdrin â phob agwedd ar ynni drwy ddefnyddio deunyddiau craidd yn ddoeth. Er mwyn i Gymru yrru ymlaen tuag at economi gynaliadwy carbon isel a gwastraff isel, mae Busnes Cymru’n galw ar fusnesau i gymryd camau rhagweithiol i wella eu cynaliadwyedd.

Mae amrywiaeth o ffynonellau ar gael a fydd yn helpu busnesau i:

  • leihau gorbenion a chynyddu proffidioldeb
  • cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
  • gwella eich delwedd ymysg cwsmeriaid, gweithwyr a’r gymuned leol
  • gwella’r gweithle a’r amgylchedd lleol

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y gwasanaeth sydd ar gael ar gyfer busnesau yma.

<< Yn ôl at Newyddion