Mae busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael gwahoddiad i fynd i Ffair Cymorth Busnes sydd ar y gweill, a fydd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach y mis hwn.
Bydd y digwyddiad am ddim yn cael ei gynnal ddydd Iau 16 Mehefin rhwng 4pm a 6pm yng Nghanolfan Hamdden Halo ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae busnesau o bob math o ddiwydiannau wedi cael gwahoddiad, ac mae cymorth a chanllawiau ar gael ar redeg busnes yn effeithiol.
Bydd nifer o bartneriaid ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn bresennol yn y ffair gan gynnwys Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, Cymorth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Cwmpas a llawer mwy.
Mae’r digwyddiad am ddim i bob busnes, a does dim angen cofrestru.
I gael gwybod mwy am y ffair cymorth busnes sydd ar y gweill, e-bostiwch business@bridgend.gov.uk.
Dilynwch ni