Mae busnesau wedi cymryd rhan mewn arolwg sy’n darparu adborth ar Ŵyl Nadolig Ddigidol gyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Nod yr ŵyl oedd cynnig ffyrdd amgenach ac mwy diogel i breswylwyr ddathlu’r Nadolig yng nghanol trefi yn ystod pandemig coronafeirws, a gafodd ei gynllunio i gefnogi busnesau lleol trwy ddarparu cyfleoedd i arddangos cynhyrchion ac i alluogi siopwyr i bori’n hamddenol.
Gwahoddwyd busnesau ar draws y fwrdeistref sirol i gymryd rhan yn y fenter, a gafodd ei datblygu ar ran yr awdurdod lleol gan EPM Creative.
Cynhaliwyd yr ŵyl rhwng 14 Tachwedd a 5 Ionawr, a gwelwyd cyfanswm o 127 o fusnesau ar draws y fwrdeistref sirol yn cymryd rhan, gyda 70 ohonynt yn cwblhau arolwg ar ôl y digwyddiad.
Dywedodd 85% o ymatebwyr eu bod nhw wedi cymryd rhan yn y digwyddiad, gyda thri chwarter o fusnesau yn sgorio’r digwyddiad yn wych neu dda.
Dywedodd busnesau bod y buddion yn cynnwys gallu hyrwyddo eu busnes eu hunain mewn ffordd wahanol, hyrwyddo canol y dref dros gyfnod y Nadolig, a helpu i sicrhau gwerthiannau. Dywedodd hanner yr ymatebwyr eu bod nhw wedi ennill cwsmeriaid newydd yn sgil y fenter.
Pan ofynnwyd am yr apiau canol tref a gafodd eu cyflwyno, roedd 87% o ymatebwyr yn meddwl eu bod nhw wedi gweithio fel ffordd o hyrwyddo eu busnes a chanol y dref.
Wrth fynd ymlaen, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y byddai’n well ganddyn nhw pe byddai sianelau cyfryngau cymdeithasol, megis Facebook ac Instagram, yn cefnogi eu busnesau a chanol y dref yn y dyfodol. I ddilyn hyn, cafwyd ap canol y dref (39%) a gwefan canol y dref (19%).
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau: “Roedd yr ŵyl yn rhan o ymdrechion y cyngor i gefnogi masnachwyr yn ystod y cyfnod heriol hwn dan gyfyngiadau coronafeirws.
“Mae’r wefan, ac apiau canol y dref, wedi helpu i roi hwb i fusnesau lleol, a chaniatáu ein preswylwyr i gymryd rhan mewn ychydig o hwyl yr ŵyl, mewn cyfnod lle nad ydym yn gallu dod at ein gilydd i ddathlu.
“Diolch o galon i’r busnesau hynny a gymerodd ran, ac a gwblhaodd yr arolygon gan ddarparu adborth gwerthfawr. Roeddem yn falch o weld fod nifer yn credu bod y fenter yn ddefnyddiol, ac yn dda i’r dref a busnesau yn ystod cyfnod heriol.
“Defnyddir y canlyniadau i werthuso sut rydym yn symud ymlaen gyda’r stryd fawr ddigidol.
“Byddwn yn annog preswylwyr i barhau i lawrlwytho apiau canol y dref, sydd yn dal yn cefnogi masnachwyr allweddol a’r rhai sy’n cynnig gwasanaethau clicio a chasglu – mae cefnogi ein busnesau lleol yn bwysicach nag erioed.”
Dywedodd Paul Whittaker, cyfarwyddwr creadigol EPM Creative: “Mae wedi bod yn bleser cael gweithio gyda busnesau ar draws y tair tref, a helpu i hwyluso’r gwaith o adeiladu eu proffiliau, gan sicrhau masnach iddynt yn ystod y cyfnodau heriol hyn.
“Rydym yn hapus gyda’r adborth yn yr arolwg. Mae’n profi ein bod ni’n gallu dod o hyd i ddatrysiadau i helpu i gadw’r economi leol ar agor ac yn gweithredu wrth i ni weithio gyda’n gilydd yn ystod y cyfnod heriol hwn. Rydym yn teimlo fod hyn yn rhywbeth y gellir adeiladu arno, a gweithio arno yn y dyfodol.”
Dywedodd Beth Daniel, cadeirydd Fforwm Masnachwyr Pen-y-bont ar Ogwr: “Roedd yr Ŵyl Nadolig Ddigidol yn ffordd wych o annog preswylwyr i gysylltu gyda busnesau yng nghanol y dref yn ystod cyfnod y Nadolig, oedd yn heriol i fasnachwyr.
“Hyrwyddwyd busnesau’n ddyddiol, a chynigiwyd talebau a gwobrau ffyddlondeb i annog gwerthiannau. Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus, gyda masnachwyr yn cael llawer o ddiddordeb a busnes.
“Ar ran Fforwm Masnachwyr Pen-y-bont ar Ogwr, hoffwn ddweud diolch i chi am y gefnogaeth rydym wedi ei derbyn.”
Am ragor o wybodaeth ar lawrlwytho apiau canol y dref ar gyfer Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, ewch i wefan Nadolig Digidol (External link – Opens in a new tab or window).
Dilynwch ni