Ceisiadau ar agor ar gyfer rhaglen grant ariannol

Dydd Iau 16 Chwefror 2023

Mae ceisiadau ar gyfer rhaglen grant ariannol gwerth £150,000 nawr ar agor.

Mae Enterprise Nation a VistaPrint wedi dod at ei gilydd i roi cyfle i 20 o fusnesau bach o bob rhan o’r DU ennill cymorth marchnata ynghyd â grant o £7,500. Mae’r cymorth marchnata yn cynnwys tanysgrifiad am ddim am 12 mis i feddalwedd dylunio graffeg VistaPrint, £500 i’w wario ar VistaPrint a phecynnau brandio marchnata unigryw.

I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i’ch busnes:

  • fod wedi’i leoli yn y DU a bod â chyfrif banc busnes yn y DU
  • fod yn fusnes cofrestredig neu wedi’i gofrestru’n hunangyflogedig gyda phrawf o’u Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw
  • bod â gweithlu o ddim mwy na 10 o weithwyr
  • fod yn masnachu am o leiaf tri mis
  • peidio â bod yn mynd drwy ansolfedd, archwiliad, mynd i ddwylo’r derbynnydd neu unrhyw broses gysylltiedig neu debyg, a
  • os gofynnir i chi, dylech fod yn barod barod i rannu eich stori lwyddiant o ran sut y defnyddiodd eich busnes y grant ariannol ( gall VistaPrint ddefnyddio a/neu gyhoeddi’r manylion hyn ymhellach at wahanol ddibenion megis marchnata, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus)

Bydd ceisiadau’n cau ddydd Sul 26 Chwefror, a byddwn yn cysylltu â’r busnesau sydd ar y rhestr fer dros e-bost ddydd Iau 16 Mawrth.

Darganfyddwch fwy a gwnewch gais.

<< Yn ôl at Newyddion