Y cyngor yn sicrhau busnesau fod cymorth grant COVID-19 ar y ffordd

Dydd Gwener 3 Ebrill 2020

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn sicrhau busnesau lleol fod grantiau busnes COVID-19 Llywodraeth Cymru ar y ffordd i ymgeiswyr cymwys.

Mae’r grantiau busnes nad ydynt yn ad-daladwy sy’n werth £10,000 a £25,000 yn cael eu gweinyddu gan y cyngor ac mae cofrestriadau yn cael eu prosesu ar hyn o bryd, yn ddarostyngedig i wiriadau cymhwysedd.

D
ywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Huw David: “Rydym wedi derbyn 775 o geisiadau hyd yn hyn, ac rydym eisoes wedi dechrau prosesu taliadau ar gyfer ceisiadau am grantiau yr wythnos hon, sy’n golygu y gellir dechrau talu’r taliadau cyntaf hynny i gyfrifon banc ymgeiswyr yr wythnos nesaf.

“Rydym eisoes wedi rhoi cyfanswm o £650,000 i geisiadau sydd wedi’u gwirio a’u prosesu.

“Rydym yn gofyn i chi fod yn amyneddgar; mae ein staff yn gweithio’n galed i brosesu’r ceisiadau hyn mor gyflym â phosibl. Mae angen gwirio a dilysu pob cais, yn enwedig os bydd manylion cyfrifon banc ymgeiswyr yn wahanol i’r rhai sydd gennym yn ein cofnodion. Mae angen i ni ddilysu’r manylion hyn er mwyn atal achosion o dwyll.

“Byddwch yn derbyn bil ardrethi busnes newydd sy’n dangos y diwygiad i’ch cyfrif yn ogystal â hysbysiad talu sy’n cadarnhau bod y taliad wedi’i ddanfon i’ch cyfrif banc.

“Rydym yn annog unrhyw fusnes cymwys i wneud cais ar gyfer y grantiau hyn, gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Os na chaiff ceisiadau eu gwneud a manylion banc eu cyflenwi (gan gynnwys cyfriflen banc gyfredol), ni ellir talu’r arian i chi.”

Mae unrhyw gwmni sy’n atebol i dalu ardrethi busnes ac sy’n meddiannu safle busnes ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai, neu fusnes manwerthu, hamdden neu letygarwch â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000, yn cael ei annog i gofrestru am grant busnes.

Os nad ydych yn talu ardrethi busnes ar hyn o bryd gan eich bod yn elwa o Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach, rydych yn dal i fod yn gymwys i gofrestru ar gyfer y grantiau.

Gwybodaeth y gofynnir amdani

Mae’r cyngor hefyd yn ceisio gwybodaeth gan fusnesau er mwyn targedu’r math cywir o gymorth busnes. Hoffem wybod beth allai’r cyngor ac eraill fod yn ei wneud i gynorthwyo busnesau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae ffurflen ar-lein wedi’i chreu fel y gall cwmnïau anfon eu hymatebion atom, gan gynnwys mesur yr effeithiau cyfredol a thebygol o achosion COVID-19 ar eu busnesau.

Mae busnesau yn cael eu hannog i wirio tudalen wybodaeth coronafeirws (COVID-19) y cyngor am ddiweddariadau rheolaidd, yn ogystal â gwefannau Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â chymorth busnes, e-bostiwch: business@bridgend.gov.uk

 

<< Yn ôl at Newyddion