Cymorth ariannol ar gael drwy’r rhaglen Recriwtio a Hyfforddi
Dydd Llun 21 Hydref 2024
Os ydych yn dymuno cyflogi gweithwyr newydd o fewn eich busnes, mae cyllid newydd ar gael drwy’r rhaglen Recriwtio a Hyfforddi.

Wedi ei ariannu ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Recriwtio a Hyfforddi yn cynnig y cyfle i unrhyw fusnes sy’n bodloni’r meini prawf canlynol gael £2k ac arweiniad arbenigol ar hyfforddiant a datblygiad parhaus:
Dylai busnesau sydd â diddordeb fod yn:
- fusnes bach yn y sector preifat sy’n cyflogi llai na 49 o weithwyr ac wedi ei leoli o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (neu un o awdurdodau lleol eraill cymoedd y de-ddwyrain sydd o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd)
- awyddus i recriwtio i swydd newydd neu swydd wag, gyda’r swyddi’n rhai am o leiaf 12 mis, 30 awr yr wythnos ac yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf
- recriwtio gweithiwr newydd sy’n 18 mlwydd oed neu hŷn
- derbyn dim cyllid arall ar gyfer recriwtio i’r swydd hon
- recriwtio ar gyfer swyddi sero net, gwyrdd, gweithgynhyrchu uwch neu ddigidol
Gall busnesau wneud cais am hyd at 5 x £2k ar gyfer hyd at 5 penodiad.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Iau 31 Hydref 2024.
Dysgwch fwy a mynegwch eich diddordeb.
Dilynwch ni