Cymorth i fewnfudwyr ar gael drwy’r rhaglen AilGychwyn

Dydd Llun 9 Mai 2022

Mae cymorth bellach ar gael i fewnfudwyr sy’n cyrraedd Cymru ar ôl ffoi rhyfel neu erledigaeth ennill cyflogaeth drwy’r rhaglen AilGychwyn.

Mae gan fewnfudwyr ystod eang o sgiliau a phrofiad a all weddu i unrhyw fusnes, ac mae cyflogwyr yn cael eu hannog i fuddsoddi ynddynt a’#u helpu i ddechrau bywyd newydd yng Nghymru.

Fel rhan o’n rhaglen, byd busnesau’n cysylltu â Swyddog Ymgysylltiad Cyflogwr Llywodraeth Cymru er mwyn helpu â’r broses a fydd yn cynnwys rhoi sesiynau hyfforddi, arweiniad ar gyfer cynlluniau lleoliad â thâl ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan y busnesau drwy gydol y rhaglen.

Mae gan fewnfudwyr yr hawl i weithio yn y DU heb unrhyw gyfyngiadau ac mae ganddynt lawer o sgiliau a rhinweddau nad ydynt yn cael eu defnyddio ddigon yng Nghymru.

Dysgwch fwy a gwnewch gais am y cynllun.

<< Yn ôl at Newyddion