Cynllun Didyniad Cyflogres ar gael i Fusnesau Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Llun 25 Mawrth 2024

Mae Cynllun Didyniad Cyflogres ar gyfer staff bellach ar gael i fusnesau ar hyd a lled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy Undeb Credyd Lifesavers Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Cynllun Didyniad Cyflogres yn caniatáu i weithwyr gynilo arian yn rheolaidd, yn uniongyrchol o’u cyflog a chyn iddo gyrraedd eu cyfrif banc. Mae’n ffordd gyfleus a rhwydd o gynilo, a gall helpu i ddiogelu rhag pwysau ariannol annisgwyl.

Fel rhan o Undeb Credyd Lifesavers, byddwch yn cefnogi sefydliad sydd wedi ymrwymo i helpu i wella’r gymuned leol ac sy’n gallu cynnig buddsoddiadau lleol ledled y fwrdeistref sirol.

Cewch ragor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer y cynllun yma.

 

<< Yn ôl at Newyddion