Dewch i ymuno â ni yn ein Ffair Cymorth Busnes nesaf

Dydd Mercher 1 Mai 2024

Gwahoddir busnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fynychu Ffair Cymorth Busnes sy’n cael ei threfnu gan dîm menter’r cyngor.

Bydd y digwyddiad rhad am ddim yn cael ei gynnal ddydd Iau 23 Mai, rhwng 4pm a 6pm yn y Neuadd Fowlio Dan Do, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH.

Mae’r digwyddiad galw heibio am ddim, wedi’i anelu at fusnesau newydd, a rhai sydd eisoes wedi sefydlu, gan roi arweiniad ar yr ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael gan amrywiaeth o sefydliadau cymorth busnes, gan gynnwys:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Busnes Cymru
  • Adran Gwaith a Phensiynau
  • Banc Datblygu Cymru
  • Gyrfa Cymru
  • Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cwmpas

a llawer mwy.

Bydd busnesau hefyd yn gallu dysgu am gyfleoedd ariannu, gan gynnwys grantiau sydd ar gael a chyfleoedd i rwydweithio gyda busnesau eraill o fewn y fwrdeistref sirol.

Mae’r digwyddiad am ddim i bob busnes, ac nid oes angen cofrestru – y cyfan sydd yn rhaid ei wneud yw galw heibio ar y diwrnod.

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Am ragor o wybodaeth am y ffair cymorth busnes nesaf yma, anfonwch e-bost at business@bridgend.gov.uk.

<< Yn ôl at Newyddion