Digwyddiad Hyderus o ran Anabledd ar y gweill

Dydd Mawrth 25 Ebrill 2023

Mae busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gwahoddiad i fynychu digwyddiad Hyderus o ran Anabledd mis nesaf.

Cynhelir y digwyddiad ar Ddydd Iau, 18 Mai rhwng 10am a 12pm yn Nhŷ Bryngarw, Brynmenyn.

Trefnir y digwyddiad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Busnes Cymru, ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, sydd yn ei gynnal.  Dyluniwyd y digwyddiad Hyderus o ran Anabledd er mwyn arddangos buddion cyflogi pobl gyda chyflyrau iechyd i gyflogwyr. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth ar gyfer cofrestru ar y cynllun Hyderus o ran Anabledd, ochr yn ochr gyda:

  • Tystebau gan siaradwyr ysgogol
  • Cyfle i sgwrsio gyda staff o’r Adran Gwaith a Phensiynau, Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru.
  • Areithiau gan Terry Mills a Huw Chance, Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu wrth i chi gyrraedd.

I archebu eich lle, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen sydd wedi’i hatodi.

<< Yn ôl at Newyddion