Digwyddiad Rhwydweithio Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr – Brecwast Rhwydweithio Nadoligaidd

Dydd Iau 27 Hydref 2022

Mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr (BBF) yn falch iawn o wahodd busnesau o bob rhan o’r fwrdeistref sirol i’n digwyddiad rhwydweithio sydd ar y gweill. Yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio ardderchog, bydd y digwyddiad yn cynnig llwyfan i ddiweddaru aelodau presennol a darpar aelodau ar weithgareddau’r fforwm i’r dyfodol.

Dyddiad: Dydd Iau 1 Rhagfyr 2022

Amser: 7.30am ar gyfer dechrau am 8am, tan 10:00am

Lleoliad: Gwesty a Sba Best Western Heronston, CF35 5AW

Pris: Am ddim (darperir brecwast)

Rydym yn ymwybodol fod angen i ni ddatblygu’n gyson er mwyn parhau’n berthnasol i’n haelodau a’u gofynion. Mae hyn wedi’i wneud yn amlycach gan effaith y ddwy flynedd ddiwethaf ar y ffordd y mae busnesau’n gweithio.

Er mwyn helpu BBF yn hyn o beth, rydym wir yn gobeithio y gallwch ein helpu i ddatblygu’r fforwm. Po fwyaf o fusnesau sy’n ymgysylltu, y mwyaf cadarn y bydd yr adborth a’r mwyaf gwerthfawr y bydd o ran ail-lunio BBF i’r dyfodol.

Bydd busnesau hefyd yn cael cyfres o fân gyfarfodydd er mwyn hyrwyddo eich busnes, sy’n gyfle perffaith i ail-gysylltu a chwrdd â chysylltiadau newydd yn y diwydiant ar draws ystod o sectorau a diwydiannau amrywiol. Mae’n ymwneud ag uchafswm yr effaith, gan roi cyfle i chi werthu eich nwyddau a’ch gwasanaethau. Cofiwch ddod â chryn dipyn o gardiau busnes a deunydd hyrwyddo.

Bydd y digwyddiad hwn yn sicrhau bod gennych gyfle i gwrdd â busnesau tebyg mewn awyrgylch cyfeillgar ble gallwch ymlacio.

Dim ond hyn a hyn o gyfleoedd sydd ar gael i fod â stondin arddangos yn y digwyddiad. I holi am arddangos yn y digwyddiad, e-bostiwch: business@bridgend.gov.uk

Caniateir 1 x faner stondin fesul cwmni a darperir bwrdd bychan.

Rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer y digwyddiad.

<< Yn ôl at Newyddion