Digwyddiad Rhwydweithio Venture Graddedigion

Dydd Mawrth 30 Mai 2023

Mae Venture Graddedigion yn gwahodd busnesau o ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’w digwyddiad Rhwydweithio dros Frecwast i Fusnesau: Rise and Shine.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher 7 Mehefin am 8.30am tan 10.30am yn adeilad Sbarc Prifysgol Caerdydd, a bydd yn cynnwys

  • Y rhaglen recriwtio a datblygu unigryw mae Venture Graddedigion yn ei chynnig
  • Cyfle i rwydweithio gyda phobl o’r un anian
  • Siaradwyr gwadd a fydd yn rhannu eu mewnwelediad

Nod Venture Graddedigion yw cysylltu graddedigion uchelgeisiol gyda busnesau ledled Prifddinas-ranbarth Caerdydd, er mwyn eu helpu i ddechrau ar eu gyrfa a galluogi twf busnes.

Dysgwch fwy a chadwch eich lle.

<< Yn ôl at Newyddion