Er ein bod ni i gyd wedi bod yn aros gartref i helpu i atal y Coronafeirws rhag lledu, mae hi’n dal yn bwysig cymdeithasu a sgwrsio am broblemau sydd gennym gyda rhywun sy’n cydymdeimlo.
Mae’r tîm NET yn Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn rhedeg caffi rhithwir ar Google Meet i bobl alw heibio a chael sgwrs.
Mae siaradwyr gwadd gwych wedi ymweld â hwy, fel Mark Williams, sylfaenydd Fathers Reaching Out, a roddodd sylw i bwnc iechyd meddwl dynion.
Mae’r caffi’n rhedeg yn wythnosol, bob dydd Mercher o 11am tan 12pm, felly galwch heibio am sgwrs gyfeillgar ac anffurfiol; mae croeso i bawb.
Mae codau ystafelloedd i’w gweld ar gyfrifon Facebook a Twitter Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.
Dilynwch ni