NET Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Llun 18 Mai 2020

Dafydd

Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i gefnogi pobl a darparu gwasanaethau hyfforddi a chyflogadwyedd yn effeithiol yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Ers i’r cyfyngiadau symud ddod i rym, mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi parhau i ddarparu gwasanaeth cyflogadwyedd a hyfforddi yn effeithiol i amrywiaeth eang o gyfranogwyr sy’n byw yn y fwrdeistref sirol.

Mae’r holl aelodau tîm ar draws pum prosiect gwahanol wedi addasu’n dda i weithio o adref, ac wedi parhau i weithio’n galed er mwyn cefnogi pobl sy’n ceisio cyflogaeth yn ystod y cyfnod bregus hwn.

Yn ystod y chwe wythnos diwethaf, mae 31 cyfranogwr wedi llwyddo i ganfod cyflogaeth mewn amrywiaeth o sectorau yn cynnwys gofal, manwerthu a lletygarwch, gweithgynhyrchu ac adeiladu.

Mae hyn yn llwyddiant arbennig, o ystyried bod yr holl staff wedi bod yn gweithio o adref ers mis Mawrth, ac mae’n dangos bod Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau mewn sefyllfa i gefnogi ei gyfranogwyr yn gadarnhaol yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ogystal â chefnogi pobl gyda chyflogadwyedd, mae prosiect newydd NET yn cefnogi pobl sydd eisoes mewn gwaith i gynyddu eu horiau, cynyddu eu cyflog a gwella eu sefyllfa gyflogaeth ar y cyfan. Bu i Chris Sparrow, un o fentoriaid NET, gynnig cymorth i Dafydd Rees i wella ei gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol, ac mae’n enghraifft wych o’r prosiect ar waith.

Dywedodd Dafydd: “Roeddwn wedi cael digon ar fy mhrinder cyfleoedd yn y gweithle ac yn ansicr ynglŷn â pha gyfeiriad i’w dilyn, felly ceisiais gymorth a chefais fy nghyflwyno i brosiect NET a’m cynghorydd, Chris Sparrow.

“Ar ôl adolygu fy hanes o ran gwaith, sgiliau ac amcanion, roedd Chris a minnau yn gallu dadansoddi fy CV blaenorol ac adnabod fy nghryfderau i wneud fy hun yn fwy cyflogadwy.

“Yn ystod fy sesiynau â Chris dysgais i werthu fy hun i gyflogwyr posib, a magais hunanhyder newydd a meddylfryd cadarnhaol a wnaeth fy ysbrydoli i ddilyn llwybrau newydd.

“O ganlyniad, rwyf wedi dod o hyd i gyflogaeth llawn amser o fewn diwydiant rwy’n ei fwynhau’n fawr, gyda chydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith, ac ymdeimlad o hunanwerth a llesiant gwell ar y cyfan. Heb arweiniad Chris a phrosiect NET, ni fyddwn wedi cael yr hyder i gymryd y cyfle i wella fy hun.

“Mae NET wedi fy helpu i ddod o hyd i lwybr gyrfa ac wedi gwneud i mi sylweddoli bod gennyf fwy o sgiliau nag y gwyddwn, sydd wedi rhoi opsiynau gyrfa eraill i mi. Hoffwn ddiolch i Chris a’r holl dîm yn NET am eu gwaith caled a chefnogaeth.”

<< Yn ôl at Newyddion