Gofyn i gyflogwyr ddilyn pum cam allweddol i helpu i gadw pobl yn ddiogel yn y gwaith

Dydd Gwener 21 Awst 2020

Keep Wales Safe at Work

Wrth i nifer cynyddol o fusnesau ailagor, gofynnir i gyflogwyr ddilyn pum cam allweddol i gadw pobl yn ddiogel yn y gwaith.

Dyma’r camau, fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru:

  1. Cynnal asesiad risg COVID-19
  2. Helpu staff i weithio gartref lle y bo’n bosib
  3. Cymryd camau i sicrhau bod pellter cymdeithasol o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng pobl ar eich safle, lle y bo’n bosib
  4. Gweithredu mesurau eraill i helpu i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 ar eich safle – er enghraifft, mwy o lanhau, golchi dwylo a gweithdrefnau hylendid da
  5. Mynd ati i weithredu’r cynllun Profi Olrhain Diogelu yn y gweithle

Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Huw David: “Wrth i lawer o fusnesau ailagor, mae’n rhaid iddynt wneud hynny mewn ffordd ddiogel sy’n cydymffurfio â rheoliadau’r coronafeirws yn ogystal â rhwymedigaethau cyfreithiol eraill ar gyflogwyr fel deddfwriaeth iechyd a diogelwch.

“Bydd asesiad risg COVID-19 yn ystyried yn benodol a yw’r bobl sy’n gwneud y gwaith yn arbennig o agored i’r coronafeirws Mae asesiadau risg yn ofyniad cyfreithiol i fenywod beichiog, ni waeth beth yw maint y busnes.

“A lle nad yw gweithio gartref yn ymarferol bosib, mae’n rhaid i’r rheiny sy’n gyfrifol am weithleoedd neu safleoedd sy’n agored i’r cyhoedd sicrhau bod popeth sy’n rhesymol bosib yn cael ei wneud i gynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr rhwng pobl ar y safle wrth weithio, gan gynnwys mewn lleoliadau awyr agored – dyma ofyniad cyfreithiol yng Nghymru dan reoliadau’r coronafeirws.

“Mae’n hanfodol bod cyflogwyr yn sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf ac arweiniad perthnasol i sicrhau bod gweithleoedd a chwsmeriaid mor ddiogel â phosib yn ystod yr adeg hon.”

Gofynnir i fusnesau gymryd yr holl fesurau rhesymol bosib i leihau’r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â COVID-19, er enghraifft drwy wneud y canlynol:

  • cyfyngu ar y lefel o ryngweithio wyneb yn wyneb
  • defnyddio rhwystrau corfforol
  • cynyddu prosesau hylendid, glanweithdra amgylcheddol a darparu nodiadau atgoffa am bwysigrwydd hylendid
  • golchi dwylo’n dda am 20 eiliad gyda sebon a’u sychu’n drwyadl, neu ddefnyddio gel alcohol i’r dwylo, cyn ac ar ôl cysylltiad agos
  • lleihau seiniau swnllyd a fydd yn gofyn i bobl weiddi drostynt

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyrannu canllawiau statudol ar gymryd yr holl fesurau rhesymol i leihau cysylltiad â COVID-19. Mae methu â chymryd mesurau rhesymol i leihau cysylltiad â’r coronafeirws yn drosedd yng Nghymru, a allai arwain at ddirwy ar ôl euogfarn.

Am ganllawiau manwl penodol i’r sector ar weithio’n ddiogel yn ystod y pandemig neu i gwblhau asesiad risg COVID-19, ewch i wefan Cymru Iach ar Waith, sy’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth gan sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Galw Iechyd Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, i helpu i gyfeirio busnesau i’r canllawiau perthnasol.

Am ragor o wybodaeth am ganllawiau Profi Olrhain Diogelu i gyflogwyr, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun Profi Olrhain Diogelu yn gweithio drwy wneud y canlynol:

  • profi’r rheiny sydd â symptomau COVID-19 a gofyn iddynt ynysu wrth gymryd prawf ac aros am y canlyniad
  • olrhain yr unigolion hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad agos ag unigolyn sydd wedi cael canlyniad positif mewn prawf am COVID-19, gan ofyn iddynt gymryd rhagofalon a hunanynysu am 14 diwrnod.

Mae rhagor o wybodaeth a phecyn cymorth sy’n darparu adnoddau ymarferol i helpu cyflogwyr i gadw eu gweithlu’n ddiogel yn y gwaith ar gael ar wefan Busnes Cymru.

<< Yn ôl at Newyddion