Pontio’r UE

Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020

Gan fod y DU bellach wedi gadael yr UE, bydd rheolau newydd o 1 Ionawr 2021 ymlaen. Darllenwch sut bydd y rheolau newydd hyn yn effeithio ar ddinasyddion, busnesau a theithio i’r UE.

Gadawodd y DU yr UE ar 31 Ionawr ac mae wedi bod mewn cyfnod pontio a fydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Cytunwyd ar y cyfnod pontio i ganiatáu i’r DU a’r UE ddod i gytundeb am eu perthynas yn y dyfodol.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r rhan fwyaf o reolau a threfniadau masnachu presennol yr UE yn parhau heb unrhyw newidiadau sylweddol yn y rhan fwyaf o ardaloedd. Fodd bynnag, mae diwedd y cyfnod pontio’n prysur agosáu a bydd hyn yn golygu newidiadau i’r rheolau presennol ar fasnachu, yn ogystal â’r hawl i deithio heb fisa i wledydd eraill yr UE.

Ewch i wefan Paratoi Cymru Llywodraeth Cymru i gael cyngor i ddinasyddion, sefydliadau a sectorau ledled Cymru am y camau y mae angen eu cymryd.

Newidiadau i fusnesau a dinasyddion

Mae rheolau newydd ar gyfer busnesau a dinasyddion o 1 Ionawr 2021 ymlaen.

Mae’r rheolau newydd yn effeithio ar ddinasyddion, busnesau a theithio i’r UE. Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer diwedd cyfnod pontio Brexit.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar wefan Llywodraeth y DU am:

Beth sydd angen i chi ei wneud

Bydd eich busnes, eich teulu a’ch amgylchiadau personol yn cael eu heffeithio. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu holiadur gwirio ar-lein i gael rhestr bersonol o gamau gweithredu. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer negeseuon e-bost i gael diweddariadau am yr hyn mae angen i chi ei wneud.

Cwblhau’r holiadur gwirio ar-lein ar wefan Llywodraeth y DU i gael rhestr bersonol o gamau gweithredu.

Porthol Brexit

Mae Porthol Brexit Busnes Cymru yn darparu diweddariadau a dolenni at wybodaeth a chamau gweithredu i helpu busnesau i feddwl am yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i baratoi ar gyfer newidiadau yn y dyfodol.

Mae Busnes Cymru yn cynnig un pwynt cyswllt i fusnesau ac entrepreneuriaid i gynghori a rhoi cymorth o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Am ragor o wybodaeth ewch i Borthol Brexit neu ffoniwch 0300 060 3000.

<< Yn ôl at Newyddion