Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, mae Ffair Swyddi Porthcawl yn dychwelyd fis nesaf er mwyn helpu preswylwyr Cyngor Bwrdeistref Pen y Bont ar Ogwr i ddod o hyd i gyflogaeth.
Bydd y ffair swyddi yn cael ei chynnal yn yr Hi-Tide Inn ym Mhorthcawl ddydd Iau 11 Chwefror, rhwng 10.00am ac 1pm. Mae ar agor i bawb sy’n chwilio am swydd, yn fyfyrwyr a phobl ifanc, waeth beth fo’u hoedran na phrofiad, a bydd gan fynychwyr y cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o amrywiaeth eang o gyflogwyr o ddiwydiant cyhoeddus, manwerthu a lletygarwch, gan gynnwys:
Bydd y digwyddiad yn hyrwyddo amrywiaeth o wahanol yrfaoedd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a lletygarwch. Bydd cefnogaeth ac arweiniad ar gael drwy gydol y bore gan ein staff cyfeillgar yn y tîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, a fydd, mewn partneriaeth gyda Chanolfan Gwaith Plws, wrth law i drafod llwybrau i gyflogaeth, ac er mwyn darparu cefnogaeth i lenwi unrhyw fylchau o ran hyfforddiant.
Os hoffech chi archebu lle ar gyfer eich busnes i hysbysebu yn y ffair swyddi, anfonwch e-bost at Jobs-EmployabilityBridgend@bridgend.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Dilynwch ni