Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr – ‘Llywio Dyfodol y Fforwm’

Dydd Sul 5 Ionawr 2025

Mae tocynnau ar gael yn awr ar gyfer y digwyddiad rhwydweithio busnes nesaf, Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr – ‘Llywio Dyfodol y Fforwm’.

Cynhelir ein digwyddiad nesaf ddydd Iau 30 Ionawr yn Hi-Tide, Porthcawl, rhwng 7.30am a 10am.

Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar yr ymgynghoriad a gynhelir gan Rod Howells o BIC Innovation. Gyda 22 mlynedd o brofiad, bydd yn cynnal sesiwn ryngweithiol 30 munud, lle bydd yn rhannu ei ganfyddiadau cychwynnol ac yn casglu barn ar sut olwg fydd ar ddyfodol y fforwm busnes.

Mae ein brecwastau rhwydweithiol yn gyfleoedd gwych i gysylltu a rhwydweithio gyda busnesau eraill Pen-y-bont ar Ogwr, ac i ddysgu am ddatblygiadau sydd ar y gweill o fewn y fwrdeistref sirol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael stondin yn ein digwyddiad, cysylltwch â business@bridgend.gov.uk am fwy o wybodaeth.

Mae tocynnau yn gyfyngedig a bydd y gwerthiant cyffredinol yn cau ddydd Iau 23 Ionawr felly archebwch un heddiw!

Ariennir y prosiect ymgynghori gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

<< Yn ôl at Newyddion