Mae Fforwm Modurol Cymru yn chwilio am gwmnïau yng Nghymru sy’n gweithredu neu a all weithredu yn y farchnad Cerbydau Allyriadau Sero Net newydd.
Mae’r prosiect yn cael ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru a’i nod cyffredinol yw dod â chwmnïau yng Nghymru all weithio gyda’i gilydd ynghyd, gan adeiladu busnesau clwstwr gyda diddordebau tebyg yn sector symudedd y dyfodol.
Maent yn gobeithio cynnwys busnesau sydd â’r gallu, yr hyblygrwydd a’r weledigaeth i newid eu proses a chymryd rhan mewn cadwyn ddarparu cerbydau trydan (neu hydrogen) yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y prosiect ac i ychwanegu eich cwmni, e-bostiwch info@welshautomotiveforum.co.uk
Dilynwch ni