Cymorth ariannol i fusnesau yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol

Dydd Mawrth 20 Hydref 2020

I gefnogi busnesau yn ystod y pythefnos o gyfnod clo, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth ariannol gwerth £300m.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y cyllid yn cyd-fynd â chynlluniau cymorth cyflogau sydd ar gael gan lywodraeth y DU ac y byddai rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan.

Bydd elfennau allweddol y pecyn cymorth yn cynnwys:

  • £150 miliwn ychwanegol i fynd i gam tri y Gronfa Gwytnwch Economaidd i gefnogi busnesau sydd wedi’u heffeithio gan y cyfnod atal
  • bydd pob busnes gweithredol sy’n berthnasol i’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bychain sydd â gwerth ardrethol llai na £12,000 yn cael taliad grant o £1,000
  • bydd busnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch sydd yn gorfod cau ac sy’n meddu ar eiddo gyda gwerth ardrethol rhwng £12,000 a £50,000 yn cael taliad grant un tro o hyd at £5,000
  • yn ogystal, bydd grantiau a chymorth dewisol ychwanegol i fusnesau bach sy’n ei chael hi’n anodd

Mae cronfa newydd ei chyhoeddi i helpu busnesau ddatblygu yn y tymor hirach hefyd yn cynyddu o £80m i £100m, gyda £20m ychwanegol wedi’i neilltuo i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch.

Bydd busnesau yn gallu manteisio ar y Cynllun Cadw Swyddi cyfredol neu’r Cynllun Cymorth Swyddi newydd ei ehangu.

Bydd Cynllun Cymorth Swyddi Llywodraeth y DU yn agor ar 1 Tachwedd ac yn rhedeg am chwe mis. Mae’n cynnwys cwmnïau yn parhau i dalu eu cyflogeion am yr amser a weithir, ond byddai cost yr oriau heb eu gweithio yna’n cael ei rhannu rhwng y cyflogwr, y llywodraeth (drwy gymorth cyflogau) a’r cyflogai (drwy ostyngiad mewn cyflog).

Bydd Llywodraeth y DU yn talu traean o’r oriau heb eu gweithio hyd at drothwy, gyda’r cyflogwr hefyd yn cyfrannu traean. Bydd hyn yn sicrhau bod cyflogeion yn ennill o leiaf 77% o’u cyflog arferol, lle nad yw cyfraniad y Llywodraeth wedi’i gyfyngu.

Bydd cyflogwyr sy’n defnyddio’r Cynllun Cymorth Swyddi hefyd yn gallu hawlio’r Bonws Cadw Swyddi os ydynt yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

Mae’r Bonws Cadw Swyddi yn daliad trethadwy un tro o £1,000 i gyflogwyr, ar gyfer pob cyflogai cymwys a gafodd ei roi ar y cynllun seibiant a’i gadw mewn cyflogaeth barhaus hyd nes 31 Ionawr 2021.

Bydd cyflogwyr yn gallu hawlio’r bonws rhwng 15 Chwefror 2021 a 31 Mawrth 2021. Nid oes rhaid i gyflogwyr dalu’r arian hwn i’w cyflogeion.

Gan gyhoeddi’r pythefnos o gyfnod clo sy’n dechrau am 6pm ddydd Gwener, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Gyda chalon drom rydw i’n gofyn unwaith eto i bawb aros gartref ac i fusnesau gau.

“Rydym ni i gyd wedi blino ar y coronafeirws a’r llu o reolau a rheoliadau y mae rhaid i bob un ohonom fyw gyda nhw. Rydym ni i gyd am weld diwedd ar y pandemig hwn a chael ein bywydau yn ôl. Yn anffodus, nid oes gennym frechlyn eto, a fydd yn caniatáu i ni wneud hynny.

“Y cyfnod atal byr hwn yw ein cyfle gorau i gael rheolaeth dros y feirws unwaith eto ac osgoi cyfnod cyfyngiadau llawer hirach – a niweidiol – yn genedlaethol. Mae gennym ni gyfle i weithredu a hynny o fewn cyfnod byr.

“Er mwyn llwyddo, mae arnom angen cymorth pawb. Mae Cymru wedi dangos drwy gydol y pandemig hwn y gallwn ni ddod at ein gilydd a chymryd y camau i gadw ein teuluoedd a’n cymunedau’n ddiogel.

Rhaid i ni ddod at ein gilydd unwaith eto i aros ar y blaen o ran y feirws hwn ac i achub bywydau.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi ysgrifennu at y Canghellor yn gofyn iddo roi mynediad cynnar i fusnesau Cymru at y Cynllun Cymorth Swyddi newydd ei ehangu o ddydd Gwener.

Dywedodd: “Byddai hyn yn cael gwared ar yr angen i fusnesau ymdopi gyda’r Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Swyddi yn ystod y cyfnod atal hwn. O ystyried yr argyfwng, rydym wedi cynnig talu’r costau ychwanegol a fyddai ynghlwm â hynny o gyllid Llywodraeth Cymru er mwyn helpu busnesau i gadw staff.

“Dim ond Llywodraeth y Du sydd â’r grym ariannol i warantu’r lefel o gymorth incwm sydd ei hangen ar weithwyr. Mae angen arnom daliadau mwy hael i helpu gweithwyr drwy’r argyfwng hwn.”

Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: “Byddwn yn rhoi gwybod i fusnesau sut gallant wneud cais am gymorth ariannol cyn gynted ag y cawn y manylion.

“Mae hwn yn gyfnod ansicr iawn i fusnesau, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu eu cefnogi.”

Bydd yr holl grantiau newydd yn cael eu hychwanegu at wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pan fyddant yn fyw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o gwestiynau cyffredin sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth i fusnesau megis gwerthwyr tai, bwytai, tafarndai a siopau trin gwallt. Mae’n cynnwys y wybodaeth ganlynol:

A oes rhaid cau fy musnes dan y cyfyngiadau newydd?

Byddwn yn cyhoeddi yn fuan rhestr lawn o’r busnesau y mae gofyn iddynt gau dros dro.

Rydym yn cydnabod yr ymdrechion enfawr mae busnesau wedi’u gwneud er mwyn dod yn llefydd diogel. Nid yw’r gofyniad hwn i gau yn adlewyrchiad o’r ymdrechion hynny ac mae nifer o amgylcheddau busnes yn gwneud cyfraniad isel neu gymedrol yn unig at y risg o ledaenu’r firws. Ond ar hyn o bryd, mae lleihau unrhyw gyfraniad at ledaeniad y firws yn bwysig, a dyma pam ein bod yn gofyn i fusnesau penodol i gau dros dro.

A all siopau trin gwallt a salonau harddwch aros yn agored?

Na. Rhaid cau pob gwasanaeth cyswllt agos, gan gynnwys trinwyr gwallt, barbwyr, therapyddion harddwch, tatŵyddion, a therapyddion chwaraeon a thylino’r corff.

A all caffis, bwytai, tafarndai a bariau agor?

Gall y sefydliadau hyn agor ar gyfer gwasanaethau i fynd yn unig. Ni ellir bwyta neu yfed ar y safle. Bydd mesurau ymbellhau corfforol yn berthnasol, a bydd gofyn i gwsmeriaid a staff wisgo gorchudd wyneb.                                                               

Pa leoliadau adloniant sydd wedi cau?

Rhaid cau pob lleoliad adloniant, megis sinemâu, theatrau ac aleau bowlio. Gweler y canllawiau cau busnesau am ragor o wybodaeth.

Rwy’n rhedeg busnes sydd wedi cau oherwydd y cyfyngiadau newydd. A oes unrhyw gymorth ar gael?

Oes – gweler ein tudalennau ynglŷn â chymorth ariannol i fusnesau

A allaf i symud tŷ?

Cewch, os na allwch ohirio’r dyddiad symud tan ar ôl i’r cyfnod clo byr ddod i ben. Gall gweithgareddau cysylltiedig â hynny, er enghraifft, prosesau gwagio tai, paratoi eiddo, trosglwyddo allweddi, arolygon a phrisiadau hefyd gael eu cynnal yn unol â chanllawiau gweithio yng nghartrefi pobl eraill.

A ellir cynnal ymweliadau tai?

Na. Ni ellir cynnal ymweliadau tai yn ystod y cyfnod atal ac mae gofyn i werthwyr tai y stryd fawr gau. Gall ymweliadau rhithwir barhau.

A ellir cynnal arolwg morgais yn fy eiddo?

Ni ddylai arolygon fynd i eiddo y mae rhywun yn byw ynddo yn ystod y cyfnod clo. Gellir mynd i eiddo gwag a cheir cynnal arolygon ar lefel stryd hefyd.

<< Yn ôl at Newyddion