Rhaglen llesiant yn y gweithle AM DDIM

Dydd Mawrth 14 Ionawr 2020

Ydych chi’n fusnes bach neu ganolig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd eisiau gwella iechyd a llesiant eich gweithwyr? Efallai eich bod yn gymwys i gymryd rhan mewn rhaglen llesiant yn y gweithle chwe wythnos o hyd, AM DDIM.

Mae ein rhaglen, sydd wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn ceisio gwella llesiant yn y gweithle drwy gynnig rhaglenni iechyd pwrpasol yn y gweithle, gweithgareddau corfforol lefel isel a helpu i gysylltu gweithwyr â mannau gwyrdd yn yr awyr agored. Rydym eisiau cefnogi cyflogwyr lleol i leihau cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch ymhlith eu staff, gwella cynhyrchedd, lleihau trosiant staff a gwella morâl.

Gallwn ddarparu gweithgareddau a sesiynau megis chwaraeon cerdded (pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd), grwpiau cerdded, dosbarthiadau ymarfer corff (e.e. Boxfit a hyfforddiant cylchol), gweithgareddau datblygu tîm, diwrnodau a digwyddiadau chwaraeon i’r cwmni, gweithdai maeth, asesiadau iechyd i weithwyr a chymorth i roi’r gorau i ysmygu.

I gofrestru eich diddordeb cliciwch yma neu fel arall ffoniwch ni ar 01495 222605 neu e-bostiwch y tîm Meithrin, Darparu, Ffynnu (NET) yn Groundwork Wales ar NET@groundwork.org.uk am ragor o wybodaeth.

<< Yn ôl at Newyddion