Mae busnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i ddangos eu bod yn ‘barod i fynd’ pan fydd cyfyngiadau coronafeirws yn llacio a gallant groesawu cwsmeriaid yn ôl.
Mae’r cynllun Rydym yn Barod i Fynd, a grëwyd gan Croeso Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau twristiaeth cenedlaethol eraill, yn caniatáu i fusnesau gyrraedd safon diwydiant y DU gyfan ac yn dangos eu bod yn dilyn canllawiau Covid-19 a bod ganddynt brosesau ar waith i gynnal glendid a helpu ymbellhau cymdeithasol.
Mae bron i 90 o fusnesau yn y fwrdeistref sirol wedi’u hachredu hyd yn hyn, gan gynnwys busnesau llety, atyniadau i dwristiaid a bwytai. Tynnir sylw at weithredwyr twristiaeth a lletygarwch sy’n cysylltu â’r awdurdod lleol i roi gwybod inni eu bod wedi cyrraedd y safon ar wefan cyrchfannau sir Pen-y-bont ar Ogwr, Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr (External link – Opens in a new tab or window).
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio: “Os bydd achosion coronafeirws yn parhau i ostwng, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu caniatáu i’r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch ddechrau ailagor dros y misoedd nesaf. Mae’r cynllun Barod i Fynd yn rhoi cyfle i fusnesau roi ychydig o dawelwch meddwl i ymwelwyr.
“Gall y rhai sy’n cyrraedd y safon hefyd gael y stamp ‘Teithio Diogel’ rhyngwladol gan Gyngor Teithio a Thwristiaeth y Byd yn awtomatig, fydd yn cydnabod eu bod yn bodloni protocolau iechyd a hylendid safonedig byd-eang rhyngwladol ac am eu rôl yn cefnogi adferiad sector twristiaeth y DU.
“Pan fydd cyfyngiadau’n caniatáu, rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl ac annog trigolion i fwynhau atyniadau ac amwynderau’r fwrdeistref sirol yn ddiogel. Mae’r cyngor yn parhau i gynnig cymorth i fusnesau yn ystod pandemig Covid-19, gan gynnwys gwneud 6,500 o daliadau i gwmnïau lleol sy’n dod i gyfanswm o dros £42.4m.”
Gall busnesau wneud cais i’r cynllun ar dudalen we Barod i Fynd Visit Britain (External link – Opens in a new tab or window) a gallant e-bostio tourism@bridgend.gov.uk i roi gwybod i’r cyngor pan fyddant wedi derbyn cadarnhad eu bod wedi cyrraedd y safon.
I gael rhagor o wybodaeth am Barod i Fynd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i wefan Pen-y-bont ar Ogwr (External link – Opens in a new tab or window).
Dilynwch ni