Gall pobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref archebu profion Covid-19 ar-lein

Dydd Gwener 21 Mai 2021

Gall gwirfoddolwyr a thrigolion nad ydynt yn gallu gweithio gartref bellach archebu pecyn hunanbrofi llif unffordd am ddim a ddanfonir yn uniongyrchol i’w cartref.

Bydd gwella argaeledd profion llif unffordd yn gwneud profion asymptomatig rheolaidd ar gyfer coronafeirws yn fwy cyfleus a hygyrch i bobl nad ydynt wedi’u cynnwys o dan gynlluniau presennol mewn gweithleoedd, lleoliadau gofal plant, ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Mae hunan-brofion llif unffordd hefyd ar gael i’w casglu o Faes Parcio’r Ganolfan Fowlio ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhwng 8am ac 1pm, saith diwrnod yr wythnos. Nid oes rhaid trefnu apwyntiad.

Bydd pob unigolyn yn gallu casglu neu ddosbarthu dau becyn o saith cit hunanbrofi llif unffordd i’w defnyddio gartref fel mater o drefn. Argymhellir eu bod yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos ac mae angen cofnodi canlyniadau pob prawf – negyddol a phositif– ar borth Llywodraeth y DU (External link – Opens in a new tab or window).

Mae’r profion yn hawdd eu defnyddio a gallant roi canlyniadau mewn 30 munud. Argymhellir bod y profion yn cael eu cynnal yn y bore, tri i bedwar diwrnod ar wahân.

Os yw’r canlyniad yn bositif, dylai’r person hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf Covid (prawf PCR) o fewn 24 awr drwy ffonio 119, drwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru (External link – Opens in a new tab or window) neu drwy ap Covid-19 y GIG.

Os yw’r canlyniad yn negyddol, dylid cymryd prawf arall dri i bedwar diwrnod yn ddiweddarach. Fodd bynnag, os bydd symptomau coronafeirws yn datblygu yn ystod y cyfnod hwnnw, dylid archebu prawf Covid.

Ar hyn o bryd, cynigir profion cyflym, neu brofion llif unffordd i’r grwpiau canlynol a dylent barhau i ddefnyddio eu profion fel y gwnânt nawr:

  • Gweithwyr y GIG a gofal cymdeithasol
  • Athrawon a darparwyr gofal plant
  • Dysgwyr o Flynyddoedd 7 ac uwch yn cynnwys myfyrwyr prifysgol
  • Gweithleoedd gyda 10 neu fwy o weithwyr sydd wedi cofrestru dan y rhaglen profi gweithleoedd

Efallai y bydd gan tua un o bob tri o bobl Covid-19 heb symptomau, sy’n golygu bod profion asymptomatig yn ffordd bwysig o ddod o hyd i achosion i gadw pobl yn ddiogel wrth i gyfyngiadau gael eu llacio’n raddol.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rydym am ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i bobl gael gafael ar brofion ac rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi pobl sy’n gwirfoddoli neu’n methu gweithio gartref i gael prawf rheolaidd.

“Wrth i ni barhau i lacio’r cyfyngiadau, bydd profi pobl asymptomatig yn rheolaidd yn arf ychwanegol i helpu i fynd i’r afael â lledaeniad y feirws a chadw Cymru’n ddiogel.”

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu pecyn prawf, ewch i dudalen we profi llif unffordd Covid-19 Llywodraeth Cymru (External link – Opens in a new tab or window).

Dylai unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws – peswch sych parhaus, tymheredd uchel neu newid yn eu synnwyr o flasu ac arogli – hunanynysu ac archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

<< Yn ôl at Newyddion