Galw am fusnesau ar gyfer y prosiect Sbarion

Dydd Mawrth 17 Hydref 2023

Mae busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i gyfrannu eitemau nad oes eu hangen arnynt mwyach i ysgolion ar gyfer y prosiect Sbarion.

Deunyddiau y gall plant ddefnyddio eu dychymyg i chwarae a symud gyda nhw yw Sbarion. Eitemau fel:

  • Pibelli nwy a dŵr
  • Rhaffau
  • Tiwbiau plastig
  • Riffiau cebl
  • Rhwydau cargo
  • Cwteri
  • Cratiau
  • Teiars beiciau a go-carts
  • Ffabrig
  • Pren
  • Hen ddillad
  • Cesys dillad/bagiau
  • Conau traffig
  • Bagiau mawr adeiladwyr
  • Biniau

Cynhelir y prosiect hwn gan yr Adran Pobl Ifanc Actif ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a byddan nhw’n trefnu i gasglu’r eitemau gan fusnesau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu eitemau, cysylltwch â Kelly.wake@bridgend.gov.uk neu Mari.sutton@bridgend.gov.uk

<< Yn ôl at Newyddion