Gwahoddir busnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i noddi cerflun o’r ci Snoopy fel rhan o lwybr cerdded sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Porthcawl y flwyddyn nesaf.
Seren y llwybr Dogs Trust, a fydd yn cynnwys chwe cherflun o Snoopy, fydd ffrind poblogaidd Charlie Brown o’r stribed cartŵn Peanuts.
Bydd Dogs Trust, sydd â chanolfan ailgartrefu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyngor i gynnal llwybrau bychain fel estyniad i’r prif lwybr – ‘A Dog’s Trail with Snoopy’ yng Nghaerdydd.
Bydd y digwyddiad, sy’n anelu i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo iechyd a llesiant tra’n dod â busnesau, artistiaid a chymunedau at ei gilydd, yn cael ei gynnal rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2022. Bydd yn cynnwys o leiaf chwech o gerfluniau o Snoopy, i gyd wedi eu paentio gan artistiaid lleol, grwpiau cymunedol ac ysgolion.
Anogir busnesau lleol i noddi cerflun gyda’r holl enillion yn mynd i gronfa DogsTrust.
Gall busnesau sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y llwybr a noddi cerflun e-bostio Alice Brown alice.brown@bridgend.gov.uk am ragor o fanylion.
Dilynwch ni