Galwad am enwebiadau Cadeirydd y Fforwm Busnes ac Is-Gadeirydd

Dydd Mercher 20 Mawrth 2024

Mae’r Fforwm Busnes yn awyddus i benodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd newydd wedi i’r Cadeirydd presennol, Ian Jessopp gamu i lawr.

Gyda chefnogaeth Tîm Menter Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r Fforwm Busnes wedi tyfu’n gyflym ers iddo gael ei lansio yn 2008 a bellach mae ganddo 696 o aelodau, yn cynnwys cwmnïau o bob maint ac ar draws bob sector.

Yn ddiweddar, mae’r Fforwm wedi dechrau ar Raglen Llysgennad, ac rydym yn rhagweld y bydd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn parhau gyda’r broses hon gyda golwg ar wneud y fforwm yn fwy cynaliadwy.

Enwebu aelod o’r Fforwm Busnes

Mae’n rhaid i’r sawl sy’n cael ei enwebu fod yn aelod o’r Fforwm ac os oes mwy nag un enwebiad ar gyfer pob rôl, bydd pleidlais yn cael ei bwrw gan lysgenhadon presennol Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y person sy’n derbyn y mwyaf o bleidleisiau yn dod yn Gadeirydd ac yn Is-Gadeirydd.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 3 Mai 2024

Er mwyn enwebu aelod, cwblhewch y ffurflen enwebu sydd wedi’i hatodi a’i dychwelyd i business@bridgend.gov.uk.

<< Yn ôl at Newyddion