Grant cymunedol ar gael ar gyfer tafarndai gwledig

Dydd Llun 16 Mai 2022

Mae Cronfa Gwasanaethau Cymunedol bellach ar gael i alluogi perchnogion tafarndai gwledig, deiliaid trwyddedau a chymunedau lleol weithio gyda’i gilydd i gynnal gwasanaethau lleol yng Nghymru.

Bydd Pub is the Hub yn helpu i gynorthwyo prosiect sy’n cefnogi anghenion cymunedau lleol, drwy ddefnyddio tafarndai i gynnig gwasanaeth newydd neu ddisodli gwasanaeth sydd eisoes wedi’i golli. Mae hyn yn cynnwys:

  • Siopau lleol
  • Llyfrgelloedd
  • Swyddfeydd post
  • Canolfannau cymunedol

Bydd y cyllid yn cefnogi prosiectau lle nad oes gwasanaethau ariannu lleol eraill ar gael, a bydd busnesau cymwys yn cael sylw yn y wasg a chysylltiadau cyhoeddus yn rhad ac am ddim.

Dysgwch fwy, gwiriwch eich cymhwystra ac ymgeisiwch.

<< Yn ôl at Newyddion