Gwahodd busnesau i ddweud eu dweud ar y strategaeth arloesi ddiweddaraf ar gyfer Cymru

Dydd Llun 25 Gorffennaf 2022

Mae ymgynghoriad newydd gan Lywodraeth Cymru bellach yn fyw, sy’n annog busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddweud eu dweud ar y drafft strategaeth arloesi diweddaraf.

Mae’r llywodraeth wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu’r strategaeth hon ac ar hyn o bryd yn ceisio cael barn busnesau ledled Cymru i gwblhau’r strategaeth ar gyfer Cymru ar gyfer y deng mlynedd nesaf.

Bydd y strategaeth newydd yn cydnabod rôl bwysig arloesedd ar gyfer:

  • y llywodraeth
  • busnesau
  • y trydydd sector
  • sefydliadau academaidd ac ymchwil

Gellir cwblhau’r ymgynghoriad drwy ffurflen, drwy’r post neu ar-lein a bydd yn cau ar ddydd Mercher 28 Medi 2022.

Rhagor o wybodaeth a rhoi eich barn ar y strategaeth.

<< Yn ôl at Newyddion