Gwahoddiad i fenywod busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ddigwyddiad Dathlu Menywod mewn Busnes

Dydd Mawrth 4 Hydref 2022

Ydych chi’n fenyw fusnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Hoffech chi gwrdd â menywod o’r un anian o ledled De Cymru?

Mae digwyddiad gyda’r nos, “Dathlu Menywod mewn Busnes” yn cael ei gynnal i helpu menywod busnes o ledled Pen-y-bont ar Ogwr a De Cymru i gwrdd â’i gilydd a rhwydweithio.

Cynhelir y digwyddiad ar nos Iau, 17 Tachwedd am 6pm yn Court Colman Manor, Pen-y-fai, CF31 4NG.

Yn arwain y noson fydd Sarah Jenkins o Content Queen, sy’n awdur plant hunan-gyhoeddedig ac yn fentor marchnata

Pris y tocynnau yw £75 a bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • Diod wrth gyrraedd
  • Pryd tri chwrs
  • Siaradwyr gwadd
  • Bag nwyddau am ddim
  • Eich manylion wedi’u cynnwys yn llyfryn y digwyddiad
  • Cyfleoedd i rwydweithio gyda menywod busnes eraill
  • Disgo nos

Mae gennych tan ddydd Mercher 12 Hydref i brynu eich tocyn, mae’r tocynnau’n gyfyngedig iawn.

I gael gwybod mwy a phrynu eich tocyn

<< Yn ôl at Newyddion