Gweithdai am ddim gyda PopUp Wales yn dod i Faesteg

Dydd Mawrth 13 Medi 2022

Bydd dau weithdy am ddim yn dod i Faesteg fel rhan o gydweithrediad gyda PopUp Wales a Dr Ben Reynolds o Urban Foundry.

Bydd y ddau weithdy’n cael eu cynnal mis nesaf yn Swyddfeydd BAVO, 112-113 Commercial Street ym Maesteg.

Teitl y gweithdy cyntaf yw Technegau Gwerthuso: Awgrymiadau ar ddulliau casglu data i roi hwb i’ch busnes. Bydd y gweithdy yn cynnwys hanfodion casglu data ansoddol a meintiol, yn ogystal ag adnoddau penodol megis y Dull Newid Mwyaf Arwyddocaol. Mae’r dull hwn fwyaf addas ar gyfer sefydliadau sy’n brin o amser ac angen dulliau casglu data “llai manwl” ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cynhelir y gweithdy hwn ar ddydd Mercher, 5 Hydref rhwng 1pm a 3pm.

Teitl yr ail weithdy yw Hanfodion Cynllunio Busnes: Awgrymiadau Ymarferol i Roi Hwb i’ch Busnes Bydd y gweithdy’n edrych ar elfennau allweddol cynllun busnes ac yn canolbwyntio’n benodol ar yr hyn mae’n ei olygu’n ymarferol i ddatblygu busnes. Mae’r gweithdy hwn yn ddelfrydol i rai sy’n rhedeg sefydliadau llai sydd heb ddechrau eto, neu sydd yn y camau cynnar o ddechrau arni, neu sefydliadau mwy sefydledig sydd eisiau gwneud rhywbeth newydd. Cynhelir y gweithdy hwn ar ddydd Mercher 26 Hydref rhwng 1pm a 3pm.

<< Yn ôl at Newyddion