Gweithdy Instagram am ddim i fanwerthwyr

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021

Mae busnesau yng nghanol tref bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cynnig cymryd rhan mewn gweminar am ddim i’w cynorthwyo nhw i ddefnyddio Instagram i farchnata ac arddangos y cynhyrchion a’r gwasanaethau sydd ganddynt ar gael.

Bydd y gweithdy byw ar-lein, sy’n cael ei gyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 30 Mawrth am 12.30pm ac mae’n para dwy awr.

Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: “Yn dilyn llwyddiant yr Ŵyl Nadolig Ddigidol a’r adborth gan fanwerthwyr yn dweud yr hoffent ddefnyddio mwy ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gefnogi eu busnesau a chanol y dref, mae’r cyngor a Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr wedi trefnu’r gweithdy am ddim hwn.

“Bydd y sesiwn yn cael ei theilwra i fanwerthwyr a masnachwyr marchnad lleol bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn rhoi cyfle iddynt ddysgu technegau marchnata, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer cynhyrchu postiadau effeithiol a denu pobl at eu tudalennau a gwefannau.”

Mae’n rhaid archebu lle ar y weminar am ddim – am ragor o wybodaeth neu i fynnu’ch lle, anfonwch e-bost at  neu ffoniwch 01656 815320.

<< Yn ôl at Newyddion