Mae Gwesty a Sba Best Western Heronston wedi ailagor yn ddiweddar, yn dilyn cwblhau gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd.
Bu i’r gwesty ym Mhen-y-bont ar Ogwr gynnal digwyddiad arbennig ddydd Iau 11 Mai er mwyn ailagor y gwesty, oedd yn cynnwys mannau cyhoeddus, ystafelloedd gwely, ystafelloedd ymolchi ac ystafelloedd ar gyfer achlysuron, oll wedi eu hadnewyddu.
Gwahoddwyd busnesau, pwysigion ac enwogion lleol i’r noson, a oedd yn cynnwys bwffe a diodydd. Cyflwynwyd y digwyddiad gan Lee Jukes o Bridge FM, gyda chyn Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol Rob Howley yn bresennol, a rannodd ei brofiadau o’r gwesty ac a atebodd gwestiynau gan y gynulleidfa. Cafodd y noson ei chloi gyda pherfformiad gan Amelia Lily, a gyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth X Factor.
Bu i lawer fynychu’r digwyddiad, gan roi cyfle da i Westy Heronston arddangos y gwaith adnewyddu sydd wedi gweddnewid y gwesty yn llwyr.
Dywedodd Timothy Wood, y Cynghorydd dros Ganol Pen-y-bont ar Ogwr, “Mae Heronston wedi cael hwyl anhygoel ar yr holl ystafelloedd y gweithiwyd arnynt. Mae ardal y pwll a’r ystafelloedd triniaethau sba yn uchafbwyntiau arbennig gan eu bod yn cyfleu naws groesawgar ac anffurfiol i ymwelwyr. Rwy’n falch iawn o dîm Gwesty Heronston am weithio’n galed er mwyn cyflawni’r gwaith adnewyddu.”
Rhagor o wybodaeth ynghylch y gwaith adnewyddu.
Dilynwch ni