Helo Blod trefnu digwyddad digidol i fusnesau

Dydd Mawrth 9 Mawrth 2021

Mae ein swyddog Helo Blod lleol yn trefnu digwyddiad digidol i fusnesau bychain ar 20 Mawrth rhwng 4pm ac 8pm.

Mae’r digwyddiad digidol yn gyfle i siopa a chefnogi rhai o’r busnesau bychain ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Os oes gennych chi fusnes bach ac yr hoffech fod yn rhan o’r digwyddiad i arddangos yr hyn sydd gan eich busnes bach i’w gynnig, cysylltwch ag Emily trwy’r e-bost yn emilychilcott@heloblodlleol.cymru

<< Yn ôl at Newyddion