‘Helpu i Dyfu’: Gostyngiad Digidol ar gael i fusnesau

Dydd Mawrth 19 Gorffennaf 2022

Gall busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod yn gymwys am ostyngiad o naill ai £5,000 neu 50% ar feddalwedd busnes digidol.

Mae’r cynllun ‘Helpu i Dyfu’ yn gynllun ledled y DU a gefnogir gan Lywodraeth y DU sy’n cynorthwyo BBaCh cymwys i ddewis, prynu ac integreiddio meddalwedd yn eu busnesau.

Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i gynorthwyo busnesau i roi hwb i’w perfformiad a rhyddhau amser i ganolbwyntio ar anghenion craidd y busnes, ynghyd â darparu cyngor ac arweiniad diduedd, am ddim.

Meddalwedd a gynhwysir yn y cynllun:

  • Sage
  • Quickbooks
  • Capsule CRM
  • Deskpro

Rhaid i fusnesau fod wedi bod yn masnachu ers 12 mis a chyflogi rhwng 5 a 249 o weithwyr  i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Find out more, check your eligibility and apply via the GOV.UK website.

<< Yn ôl at Newyddion