Sut mae dyfodol Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn edrych i chi a’ch busnes? Mae angen eich cymorth chi arnom fel rhan o’n hymgynghoriad presennol.
Fel y trafodwyd ym Mrecwast Rhwydweithio’r Nadolig, mae’r fforwm yn mynd drwy gyfnod ymgynghori i ddarganfod pa gyfeiriad y dylai’r fforwm fynd nesaf. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal gan Rod Howells o BIC Innovation.
Fel aelod o’r fforwm busnes, mae eich barn a’ch safbwyntiau yn hollbwysig i arwain cyfeiriad y fforwm busnes. Rydym yn y broses o gynllunio nodweddion newydd, digwyddiadau, a mentrau, ond, ni allwn gyflawni hynny heb wybod beth hoffech chi ei gael.
Rydym yn gofyn i aelodau gymryd rhan mewn arolwg byr i gasglu eich adborth ynghylch sut y gallwn wella, a beth hoffech chi weld mwy ohono i’r dyfodol.
Efallai yr hoffech weld rhagor o adnoddau newydd, rhagor o gyfleoedd rhwydweithio yn y fwrdeistref sirol, trafodaethau dan arweiniad arbenigwyr, neu weithdai arbenigol ar sut i redeg busnes yn llwyddiannus. Dyma eich cyfle i leisio eich barn a helpu i lywio’r fforwm yn y cyfeiriad cywir.
Gallwch ddweud eich dweud yn yr arolwg ar-lein, a rhannu eich adborth yn uniongyrchol hefyd gyda Rod yn ein brecwast rhwydweithio nesaf ym Mhorthcawl ddiwedd y mis. Gallwch anfon e-bost uniongyrchol ato ar rod.howells@bic-innovation.com.
Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg yw 28 Ionawr 2025.
Dysgwch fwy a lleisiwch eich barn.
Ariennir y prosiect hwn drwy Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Dilynwch ni