Lansio gwasanaeth ar-lein newydd i gyflogwyr gefnogi pobl anabl

Dydd Mawrth 25 Hydref 2022

Mae gwasanaeth ar-lein newydd wedi cael ei lansio’n swyddogol gan Lywodraeth y DU i roi’r arfau sydd eu hangen ar gyflogwyr i gefnogi eu gweithwyr anabl.

Nod y gwasanaeth Cymorth gydag Iechyd ac Anabledd Gweithwyr yw darparu gwybodaeth hanfodol am gefnogi a rheoli gweithwyr sy’n anabl neu sydd â chyflyrau iechyd yn y gwaith.

Gall unrhyw gyflogwr fanteisio ar y gwasanaeth, sy’n cynnwys cyngor rhad ac am ddim ar sut i gefnogi staff ac mae wedi’i anelu’n benodol at fusnesau llai nad oes ganddyn nhw gefnogaeth AD mewnol neu fynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol.

Ar hyn o bryd mae’r safle ar gyfnod profi, gyda busnesau’n cael eu gwahodd i ddweud eu dweud trwy arolwg byr ar-lein.

Dysgu mwy am y gwasanaeth ar-lein newydd a dweud eich dweud.

<< Yn ôl at Newyddion