Lansio menter busnes newydd gyda chymorth cyllid

Dydd Mercher 30 Tachwedd 2022

Mae siop goffi newydd wedi agor gyda chymorth cyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac UK Steel Enterprise.

Agorodd Louise Elston, a’i gŵr Matthew, Coffee@12 ar Heol y Dderwen yn swyddogol ar 8 Medi. Ar ôl i Louise sylweddoli mai ei gwir freuddwyd oedd rhedeg ei siop goffi ei hun, aeth y cwpl ati i wireddu’r freuddwyd honno.

Cafodd y cwpwl gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, wedi’i darparu gan Dîm Cyflogadwyedd a Menter y Cyngor, mewn partneriaeth ag UK Steel Enterprise, ac aethant ati i fuddsoddi mewn peiriant coffi proffesiynol a gwaith trydanol a phlymio ar y safle newydd.

Dywedodd Louise Elston, “Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac UK Steel Enterprise am gefnogi ein menter newydd. Rwyf wedi breuddwydio am fod yn berchen ar siop goffi erioed, ac ar ôl treulio 32 mlynedd yn gweithio i’r GIG, roeddwn yn teimlo mai dyma’r adeg i wireddu’r freuddwyd honno.

“Mae’r cwpwl o fisoedd cyntaf o fasnachu wedi bod yn hynod galonogol. Mae dech