Mae amser yn brin i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Dydd Gwener 21 Mai 2021

Dim ond 50 diwrnod sydd gan ddinasyddion yr UE sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Mae’r cynllun, sy’n rhan o system fewnfudo newydd y DU yn dilyn Brexit, yn cynnig yr hawl i ddinasyddion 27 aelod-wladwriaeth yr UE, yn ogystal â dinasyddion y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein, barhau i fyw a gweithio yn y DU fel yr oeddynt pan oedd y wlad yn rhan o’r UE.

Dylai bob un o ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir ac aelodau eu teulu a oedd yn preswylio yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 wneud cais, heb oedi. Nid oes ffi i wneud cais ond rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2021.

Hyd yma, mae bron i 2,000 o geisiadau ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog wedi cael eu cwblhau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. O’r rheiny, mae 1,370 wedi cael statws sefydlog a 570 wedi cael statws cyn-sefydlog, yn dibynnu ar ba mor hir maent wedi byw yma.

Arweinydd y Cyngor, Huw David:

“Os ydych chi’n ddinesydd o’r UE sydd wedi gwneud eich cartref yma ac yn cyfrannu at fywyd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydyn ni am i chi a’ch teulu allu parhau i fyw, gweithio a defnyddio gwasanaethau yma.

“Er mwyn gwneud hyn, rhaid ichi wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2021 – peidiwch ag oedi os nad ydych chi wedi gwneud cais eisoes.

“Mae bron i 2,000 o geisiadau wedi cael eu cwblhau hyd yma, gan ganiatáu i breswylwyr sy’n dod yn wreiddiol o Lithwania, yr Almaen, Portiwgal a Gwlad Pwyl – ymhlith gwledydd eraill, aros yma fel rhan o’n cymunedau.”

I gael gwybod a oes angen i chi wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog, ewch i dudalen we Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE Llywodraeth y DU (External link – Opens in a new tab or window). Os oes angen i chi wneud cais, mae’n rhaid i bob aelod o’r teulu wneud cais. Mae hyn yn cynnwys plant ac unrhyw un dan 21 oed.

Gall preswylwyr agored i niwed gael help gyda’u ceisiadau drwy edrych ar dudalen gymorth y Cynllun (External link – Opens in a new tab or window) ar y we.

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais, ewch i dudalen we Paratoi ar gyfer Brexit Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

<< Yn ôl at Newyddion