Mae ceisiadau ar gyfer rhaglen ddatblygu gyffrous gan Chwarae Teg yn awr ar agor i ferched ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae ‘Step to Non-Exec’ yn rhaglen ddatblygu 12 mis sydd wedi’i dylunio i gynorthwyo merched o bob oed a chefndiroedd i fagu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i gyrraedd safle’r bwrdd cyntaf.
Dim ond wyth allan o 100 o brif gwmnïau’r DU sydd â menywod yn Brif Weithredwyr iddynt, a dim un yn fenyw groenliw. Mae menywod o bob oed a chefndir yn cael eu hannog i wneud cais ar gyfer y rhaglen.
Bydd y prosiect yn cael ei ddarparu o Hydref 2022 hyd at Hydref 2023.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm ddydd Mercher 31 Awst 2022.
Gwnewch gais ar gyfer y rhaglen.
Dilynwch ni