Mae ceisiadau ar gyfer “The Small Awards” y DU 2023 nawr ar agor
Dydd Iau 16 Chwefror 2023
Os ydych chi’n adnabod busnes bach ysbrydoledig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gallent ennill yn “The Small Awards” y DU 2023.
Mae The Small Awards yn dathlu busnesau bach ledled y DU sydd wedi helpu eu cymuned leol ac yn taflu goleuni ar arferion busnes a allai gael eu hanwybyddu gan ddigwyddiadau gwobrwyo eraill.
Y categorïau y gellir enwebu busnesau ynddynt yw:
- High Street Hero – busnes gorau’r stryd fawr / best high street business
- Bricks and Clicks Award – y busnes bach aml-sianel gorau / best multi-channel small business
- Legacy Award – busnes teuluol gorau / best family business
- Supply Chain Champion – busnes B2B gorau / best B2B business
- New Kid On The Block – y busnes gyda’r cychwyn gorau (llai na 18 mis) / best business start-up (less than 18 months)
- Digital Star – busnes digidol yn unig gorau /best digital only business
- Heart Of Gold – y busnes sy’n cyfrannu fwyaf at ei gmuned / the business that contributes most to their community
- At Your Service – busnes gwasanaeth bach gorau / best small service business
- Sole to Sole – perchennog busnes bach hunangyflogedig gorau / best self-employed small business owner
- Mission Possible – busnes menter gymdeithasol gorau / best social enterprise business
- Net Hero – y busnes sy’n dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol / the business that demonstrates commitment to environmental sustainability
- Small Business of the Year Award – y busnes bach gorau yn gyffredinol/ best overall small business
Bydd ceisiadau’n cau am hanner nos ddydd Mawrth 28 Chwefror, gyda’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill.
Yna cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Iau 18 Mai. Darganfyddwch fwy a gwnewch gais.
Dilynwch ni