Mae Ffair Swyddi Cyflogwyr Porthcawl ar gael i Fusnesau Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Llun 13 Ionawr 2025

Bydd digwyddiad rhag-gyflogi i gyflogwyr yn cael ei gynnal ar gyfer busnesau Pen-y-bont ar Ogwr cyn Ffair Swyddi Porthcawl.

Bydd y sesiwn frecwast yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth, 28 Ionawr o 08:30am hyd at 10:30am, ac mae’n gyfle i gyflogwyr sydd eisiau mwy o wybodaeth am y ffair swyddi ac am sut i hyrwyddo eu swyddi gwag i gynulleidfa eang.

Employability Bridgend logo

Ar gyfer cyflogwyr llai sydd methu mynychu’r ffair swyddi, bydd y sesiwn rwydweithio dros frecwast yn rhoi cyfle i rannu eu swyddi gwag gyda thîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, fel y gellir hyrwyddo’r cyfleoedd hyn ar y diwrnod, ar Fwrdd Swyddi y Ffair Swyddi ac wedi hynny.

Yn ychwanegol, bydd y cyflogwyr sy’n bresennol yn y ffair swyddi yn cael budd o’r sesiwn, trwy gysylltu a rhwydweithio â chyflogwyr eraill cyn y digwyddiad, yn ogystal â gyda thîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr a thimau’r ganolfan Byd Gwaith, i’w cynorthwyo i wneud yn fawr o’r amser y maent yn ei ymrwymo i fynychu’r digwyddiad.

Bydd tîm Menter CBS Pen-y-bont ar Ogwr hefyd ar gael i drafod cyfleoedd am gyllid grant.

Os hoffech fod yn bresennol, cysylltwch â thîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ar Jobs-EmployabilityBridgend@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 815317.

<< Yn ôl at Newyddion