Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi cyhoeddi bod Gwobrau Busnesau Bach 2023 bellach yn agored i ymgeiswyr.
Mae’r gwobrau’n dathlu llwyddiannau a chyfraniadau busnesau bach ac unigolion hunangyflogedig ledled y DU, a gall bawb ymgeisio am ddim.
Mae 12 categori ar hyn o bryd, a gall busnesau ymgeisio ar gyfer cyn nifer o gategorïau ag y mynnant, ond un cais gaiff ei gyflwyno fesul categori.
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i’ch busnes fod wedi’i leoli yn y DU, gyda llai na 250 o weithwyr llawn amser.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 2 Chwefror 2023, a bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar 24 Mawrth 2023.
Dilynwch ni