Mae ymgynghoriad cyllideb Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i lansio

Dydd Mawrth 28 Medi 2021

Mae’r cyngor wedi lansio ei ymgynghoriad cyllideb blynyddol ar gyfer 2021, o’r enw ‘Llywio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr’. Nod yr ymgynghoriad yw ymgysylltu â thrigolion ar weledigaeth hirdymor ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Drwy gwblhau’r arolwg ar-lein hwn, gallwch rannu eich barn ar ein perfformiad fel awdurdod lleol dros y flwyddyn ddiwethaf, a fydd yn ein helpu i flaenoriaethu sut awn ati i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.

Eleni, fel rhan o’r broses cynllunio cyllideb, rydym eisiau clywed eich barn ar y canlynol:

  • perfformiad dros y 12 mis diwethaf;
  • cymorth ar gyfer busnesau, twristiaeth a’r economi;
  • llesiant;
  • mynediad wyneb yn wyneb i gwsmeriaid;
  • digideiddio;
  • buddsoddiad mewn gwasanaethau;
  • ffioedd a chostau;
  • lefelau’r Dreth Gyngor;

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 14 Tachwedd 2021.

Cliciwch yma i gwblhau’r arolwg a dweud eich dweud

<< Yn ôl at Newyddion