Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn ailagor i fasnachwyr allweddol

Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021
Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr

Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn ailagor ddydd Mercher 10 Chwefror gan ganiatáu i fasnachwyr allweddol ailddechrau masnachu.

Bydd y farchnad yn agor rhwng 9am a 3pm, dydd Llun i Sadwrn, ac mae pum masnachwr bwyd yn paratoi i ailagor. Yn eu plith mae becws, cigydd a delicatessen, yn ogystal â stondinau ffrwythau a llysiau, a bwydydd iach.

Bydd system un ffordd ar waith gyda marciau dau fetr ar y llawr i gynorthwyo gyda sicrhau ymbellhau cymdeithasol a bydd gorsafoedd diheintio dwylo ar gael hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: “Bydd agor y farchnad dan do yn caniatáu i fasnachwyr allweddol ailddechrau masnachu unwaith eto.

“Mae deiliaid stondinau wedi cael hyfforddiant Covid-19 ynghyd â chyfarwyddiadau ynghylch gofynion cynnal ymbellhau cymdeithasol ar gyfer deiliaid stondinau a chwsmeriaid y farchnad.

“Bydd y siopau hynny nad ydynt yn gallu ailagor ar hyn o bryd oherwydd meini prawf hanfodol Llywodraeth Cymru yn cael eu hynysu nes bydd y rheolau yn newid.

“Bydd y farchnad yn cael ei monitro i sicrhau y cynhelir amgylchedd siopa a gweithio diogel er mwyn cyfyngu amlygiad posibl i’r coronafeirws.”

Caiff y farchnad ei hailagor yn dilyn y cyhoeddiad diweddar bod cynllun rhenti rhatach y cyngor i fasnachwyr y farchnad wedi’i ymestyn, gyda gostyngiad o 50 y cant hyd at 31 Mawrth 2021.

<< Yn ôl at Newyddion