Mynegai Eiddo Canol Tref ar gael ar gyfer busnesau

Dydd Mercher 25 Mai 2022

A ydych chi’n awyddus i brynu eiddo ar gyfer eich busnes? Mae Mynegai Eiddo Canol y Dref ar gael i fusnesau ei weld.

Mae Mynegai Eiddo Canol Tref y cyngor yn rhestru eiddo sydd ar werth neu ar gael i’w rhentu yn y tair prif dref, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg. Mae’r mynegai yn dangos manylion cyswllt yr asiantiaid ac yn rhestru peth gwybodaeth am yr eiddo y mae’r asiantiaid wedi’u darparu. Mae llun hefyd ar gyfer pob eiddo a map yn dangos ei leoliad.

Gallwch hidlo’ch chwiliad yn dibynnu ar ba ddeiliadaeth rydych chi’n chwilio amdani, maint a mesurau’r eiddo a phryd yn ddiweddar y cawsant eu hychwanegu at y mynegai.

I weld y mynegai, ewch i’r tudalennau busnes ar wefan y cyngor, mae’r mynegai i’w weld yn yr adran ‘Canol Tref’.

<< Yn ôl at Newyddion