Gwefan Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr newydd yn lansio wrth i’r sector twristiaeth a lletygarwch ddechrau ailagor

Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2020

Visit Bridgend logo

Wrth i rannau o’r sector twristiaeth a lletygarwch ddechrau ailagor ledled Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio gwefan a brand cyrchfan newydd, gan hyrwyddo lleoedd y gellir ymweld â nhw yn yr ardal a darparu gwybodaeth am weithgareddau a’r llety sydd ar gael.

Roedd disgwyl i’r platfform newydd, cy.visitbridgend.co.uk, gael ei lansio cyn gwyliau’r Pasg ond cafodd ei ohirio oherwydd pandemig y coronafeirws.

Gan ddisodli hen wefan Pigion Pen-y-bont, mae’r safle newydd yn hyrwyddo môr, copaon a golygfeydd y fwrdeistref sirol, ac mae’n dwyn ynghyd ystod gyffrous o weithgareddau, llety a lleoedd o ddiddordeb.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David: “O’n harfordir hardd gyda’i draethau baner las, syrffio trwy gydol y flwyddyn a golff o’r radd flaenaf, i safleoedd hanesyddol a chanol trefi, cyfleoedd i gerdded, heicio a beicio, ac amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys ceufadu a dringo creigiau, mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr lawer iawn i’w gynnig.

“Gyda’r gofyniad i aros yn lleol bellach wedi ei godi gan Lywodraeth Cymru, llety hunangynhwysol yn gallu ailagor, ac ardaloedd awyr agored mewn tafarndai, bariau, caffis a bwytai bellach ar gael er mwyn eu mwynhau, rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr ac annog trigolion i ddarganfod yr antur, yr hanes a’r gweithgareddau sydd gan yr ardal i’w cynnig mewn ffordd ddiogel a synhwyrol.

“Daw lansiad y wefan gyrchfan newydd hon ar adeg dyngedfennol i’r economi ymwelwyr. Datgelodd arolwg diweddar o fusnesau twristiaeth lleol fod 64 y cant yn teimlo bod effaith y pandemig COVID-19 wedi bod yn sylweddol, gyda 31 y cant yn wynebu posibilrwydd o orfod cau a 3 y cant yn ofni na fyddai eu busnesau yn goroesi. Er mwyn cefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch i baratoi ar gyfer ailagor, mae’r cyngor a’i bartneriaid yn rhoi cyfres o fesurau ar waith, gan gynnwys cefnogaeth ar-lein wedi’i theilwra a fydd yn galluogi busnesau i gyflawni’r safon diwydiant a marc defnyddiwr ‘Barod Amdani’.”

Mae’r wefan newydd wedi’i hariannu’n rhannol gan brosiect Ffocws Buddsoddi Cyrchfan Porthcawl ac mae wedi cael ei chefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru, sydd hefyd wedi datblygu’r Ganolfan Chwaraeon Dŵr yn Rest Bay, adnewyddu ciosg yr harbwr ym Marina Porthcawl, a chreu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ‘Your Porthcawl’.

  • Gallwch gymryd olwg agosach ar yr hyn sydd gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’w gynnig yn visitbridgend.co.uk.

Nodiadau i olygyddion

Mae’r safon diwydiant a marc defnyddiwr ‘Barod Amdani’ wedi’i greu gan Croeso Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau twristiaeth cenedlaethol eraill. Mae’n golygu bod busnesau yn gallu dangos eu bod yn cadw at ganllawiau priodol y llywodraeth ac iechyd y cyhoedd, eu bod wedi cynnal asesiad risg COVID-19, a’u bod wedi gwirio bod ganddynt y prosesau gofynnol ar waith.

I gael y marc, rhaid i fusnesau gwblhau hunanasesiad trwy blatfform ar-lein Visit Britain (External link – Opens in a new tab or window), sy’n cynnwys rhestr wirio sy’n cadarnhau eu bod wedi rhoi’r prosesau angenrheidiol ar waith, cyn derbyn yr ardystiad a’r marc ‘Barod Amdani’ i’w arddangos ar eu safle ac ar-lein. Gellir ymuno â’r cynllun yn rhad ac am ddim, ac mae’n agored i bob busnes o fewn y diwydiant.

<< Yn ôl at Newyddion